Bu'r Cymro yn cerdded y llwybrau cynefin drwy'r oesau
Yn crafu bywoliaeth ddygysur ar gaenen o dir
Yn gwarchod ei fywyd wrth warchod y noethlymun erwau
Wrth ganlyn yr arad a dilyn yr og ar y ffridd
Dringodd y creigiau a holltodd y llethfaen yn gywrain
Tiriodd i grombil y ddaear i geibio'r glo
Gwnaeth gyfoeth i eraill a gwelodd gyfeillion yn gelain
A chyfoeth 'rhen ffydd a 'rhen eiriau oedd ei gyfoeth o
Ond cerddwn ymlaen, cerddwn drwy ddŵr a thân
Cerddwn a ffydd yn ein cân, ymlaen
A cherddwn ymlaen, cerddwn drwy ddŵr a thân
Cerddwn a ffydd yn ein cân, ymlaen
Bu farw Llywelyn, Llyw olaf y Cymry'n Nghilmeri
Saith canrif yn ôl ar yr eira diferodd ei waed
Ar bicell fe gariwyd ei ben ar hyd hewlydd Llundain
A'r dorf yn crochlefain i ddathlu'r fuddugoliaeth a gaed
Saith canrif o ormest caethiwed a gafwyd ers hynny
Saith canrif o frwydro a dioddef dan gyfraith y Sais
Ond er dicell bob bradwr a chynllwyn pob taeog a chachgi
Mae'r Cymry ar gerdded a'r bobl yn codi eu llais
A cherddwn ymlaen, cerddwn drwy ddŵr a thân
Cerddwn a ffydd yn ein cân, ymlaen
A cherddwn ymlaen, cerddwn drwy ddŵr a thân
Cerddwn a ffydd yn ein cân, ymlaen
A cherddwn ymlaen, cerddwn drwy ddŵr a thân
Cerddwn a ffydd yn ein cân, ymlaen
A cherddwn ymlaen, cerddwn drwy ddŵr a thân
Cerddwn a ffydd yn ein cân, ymlaen