LyricFind Logo
LyricFind Logo
Profile image icon
Lyric cover art

Teimlo'r Awen

•

2021

Riddim Rock Go Iawn

Apple Music logo
Deezer logo
Spotify logo
Lyrics
Real Rock Riddim yn rhedeg yn fy ngwaed,
Sefyll ar fy nwylo a menig ar fy nhraed,
Di popeth ddim mor hawdd a botwm dan dy fawd,
Dwi'n meddwl am y pethau bach sy'n poeni pawb.
Rho i mi Reggae Riddim, breuddwydio sŵn gitâr,
Gore'n byd rhoid gorffwys i fy llygaid sgwâr,
Dwi'n methu y mynyddoedd a hiraeth am y môr,
A'r adar bach yn canu yn y coed fatha côr.


Dwi isio mynd allan heno, ond ddim heb Meri Jên,
Dwi'n licio sut mai n neud fi deimlo wastad hefo gwên,
D'ir pubs ma byth yn chwarae Riddim Rock go iawn,
A finnau wedi bod yn paratoi trwy'r prynhawn.


O o o o ar y Riddim Rock go iawn,
O o o o gwrando ar y Riddim Rock go iawn.


Aur y byd yw'r miwsig sy'n codi calon las,
Troi y speakers fyny dwi sio teimlo sŵn y bas.
Dawnsio yn y gegin neu'n gyrru yn y car,
Lle bynnag fyddai'n chilio mae na wastad miwsig ar.

Di trio heavy metal, a jazz, punk, soul a pop,
Ond snam byd yn taro'r spot fatha reggae one drop,
Gai byth o fy siomi, fydd fy enaid byth yn llawn,
Nes fyddai wedi gwrando ar y Riddim Rock go iawn.

O o o o ar y Riddm Rock go iawn,
O o o o gwrando ar y Riddm Rock go iawn.


Hedfan yn y gofod fel seren yn y nen,
Atgofion fel galaethau yn llenwi'm mhen,
Methu mynd i gysgu, dwi'n clywed atsain y beat,
Waiting for the bass to come and knock me off my feet.


Dilyn llwybr llaethog sydd yn ein tywys ni,
Trwy anturiaethau amser cyn sylweddoli,
Fod na reswm am fodolaeth, pob seren, môr a galaeth,
Wedi 'iw gosod yn eu lle er mwyn reggae heb amheuaeth.

Byw a bod i ddod o hyd i enaid rhydd,
Anodd yn y dechrau ond fe ddaw ryw ddydd,
Eistedd rownd y tân yn canu a chwerthin,
Pawb yn llawn direidi pasio'r mwg a'r gwin.


O o o o ar y Riddm Rock go iawn,
O o o o gwrando ar y Riddm Rock go iawn.

WRITERS

Morgan Elwy

PUBLISHERS

Lyrics © NW ROYALTY CONSULTING, LLC.

Share icon and text

Share


See A Problem With Something?

Lyrics

Other

More From This Album

Lyric cover art

Teimlo'r Awen

2021

01

Aur Du A Gwyn

Morgan Elwy

02

Bach O Hwne

Morgan Elwy

03

Jericho

Morgan Elwy

04

Glawio

Morgan Elwy

05

Dal Yn Dyn

Morgan Elwy

06

Aros I Weld

Morgan Elwy

07

G.D.W

Morgan Elwy

08

Awen

Morgan Elwy

09

Riddim Rock Go Iawn

Morgan Elwy

10

Curo Ar Y Drws

Morgan Elwy

From This Artist