LyricFind Logo
LyricFind Logo
Profile image icon
Lyric cover art

Tra Dwi'n Cysgu

•

2024

Bae

Apple Music logo
Deezer logo
Spotify logo
Lyrics
Daw y tonnau nol i
Ganu'r un hen stori
Hoel eu hanes yn yr ewyn gwyn ma'n
fy atgoffa i o, be nes i anghofio
Ble dwi angen dod i deimlo hyn

Oni'n aros yma ben fy hun
Nes i deimlo'r pwysa'n codi
Nes i drio gafael yn dy lun
I gael man i angori

Nôl a nôl i'r bae
Aros i dy lygid gau
Dy lygid gau
Nôl a nôl i'r bae
Aros i dy lygid gau
Dy lygid gau

Bob yn hyn a hyn ma'n
Amser newid siwrna
Dal y gwynt i gyrraedd pen y bryn ond
Os ti'n aros heno, fydd dy gorff yn cofio
Ble ti angen dod i deimlo hyn

Wyt ti'n trio neud o ben dy hun
A ti'n trio peidio boddi
Wyt ti'n trio aros ar ddi-hun
I gael man i angori

Nôl a nôl i'r bae
Aros i dy lygid gau
Dy lygid gau
Nôl a nôl i'r bae
Aros i dy lygid gau
Dy lygid gau

A ma cân yr ewyn erbyn hyn
Wedi canu diwedd stori
Ond daw cyfle eto'i ddal yn dynn
Rhwng bob ennyd sy'n bodoli
Awn ni nôl i'r bae i weld y byd
Awn ni weld y tonnau'n codi
Nawn ni aros am ryw ddarn o hud
I gael man, i angori

Nôl a nôl i'r bae
Aros i dy lygid gau
Dy lygid gau
Nôl a nôl i'r bae
Aros i dy lygid gau
Dy lygid gau"

WRITERS

Stephan Davies

PUBLISHERS

Lyrics © O/B/O DistroKid

Share icon and text

Share


See A Problem With Something?

Lyrics

Other

More From This Album

Lyric cover art

Tra Dwi'n Cysgu

2024

01

Bae

Yws Gwynedd

02

Gwaith i Neud

Yws Gwynedd

03

Gwthio Fo Lawr

Yws Gwynedd

04

Charrango

Yws Gwynedd

05

Tra Dwi'n Cysgu

Yws Gwynedd

06

Summer's Day

Yws Gwynedd

07

Aros Am

Yws Gwynedd

08

Hi fydd yr Un

Yws Gwynedd

09

Dal Fi Lawr

Alys Williams, Yws Gwynedd

10

Un am y Lôn

Yws Gwynedd

From This Artist